Trafod hefo Meilir Rhys
Send us a textMynd i'r Bala mewn cwch banana? Na, mynd i'r Bala i drafod patriarchaeth, bod yn driw i chdi dy hun rhywioldeb a llawer mwy hefo' brodor o'r ardal... yr Actor, Cyflwynydd, Podlediwr o fri Meilir Rhys. Yn y sgwrs bwerus, hwyl a thyner yma, mae Mari yn trafod popeth Gwrachaidd hefo Meilir, gan gynnwys ei fagwraeth, ei gariad at drawsnewid ffurf ac wrth gwrs Ru Paul. Gwrandewch, Mwynhewch......byddwch wych, byddwch wrachaidd xoxo
Trafod hefo Lisa Jên
Send us a textYn y bennod yma, mae Mari'n eistedd i lawr gyda'r actores, cantores, perfformiwr, a chydlynydd agosatrwydd Lisa Jên Brown ym mro ei mebyd, Bethesda. Mae'r ddwy yn sgwrsio am ddarganfod eu llwyth, byw yn driw i'w hunain, a'r holl anturiaethau hudolus a gwrachaidd mae Lisa wedi bod yn eu gwneud. Peidiwch â cholli'r sgwrs ysbrydoledig a swyngyfareddol hon! Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd ✨In this episode, Mari sits down with the brilliant actress, singer, performer, and intimacy coordinator Lisa Jên Brown in her hometown of Bethesda. They chat about finding their tribe, embracing your authentic self, and all the magical, witchy adventures Lisa’s been up to. Don’t miss this inspiring and enchanting conversation!
Trafod hefo Angharad Tomos
Send us a text"Gwrach glên oedd Rala Rwdins..." Anaml iawn mae rhywun yn cael y cyfle i gyfweld ag arwres eu plentyndod , ond dyna'n union mae'r podlediwr Mari Elen yn gwneud yn y bennod arbennig yma o Gwrachod Heddiw. Wedi ei recordio yn yr Orsaf ym Mhenygroes, mae Mari yn holi'r awdur, arlunydd, dramodydd ac ymgyrchydd Angharad Tomos. Gwrandewch a mwynhech sgwrs hir am Wlad y Rwla, Ymgyrchu, Eileen Beasley, Cyflwr y byd a pha mor bwysig ydi bod yn driw i dy hun a'th egwyddorion. Sgwrs sy'n plethu'r difyr, y dwys a'r digri. Mae'r gyfres yma wedi'w ariannu gan gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Prydain.Diolch i'r Orsaf ym Mhenygroes am gefnogi a chynnig cartref mor braf.Diolch i Frân Wen am yr offer Sain.
Trafod hefo Caryl Burke
Send us a text Croeso nôl i fyd Gwrachod Heddiw! Dyma'r bennod cyntaf yn ein trydydd cyfres, ac mae'n fraint gael cyflwyno y digrifwr Caryl Burke! Yn y bennod doniol a thwymgalon hon, mae’r digrifwr Caryl Burke yn ymuno â ni o flaen cynulleidfa byw yn Nhafarn y Plu, Llanystumdwy am sgwrs di-flewyn-ar-dafod am gathod, galar, comedi a boobs. Rydyn ni'n plymio'n ddwfn i'r hyn sy'n gwneud Caryl yn debycach i wrach heddiw - boed yn gasineb at gathod, ei synnwyr gomedi hudolus, neu ei phersbectif unigryw ar fywyd. Gyda digon o chwerthin, eiliadau gonest, dyma'r cyntaf o'i fath ar gyfer y gyfres yma.Mae'r gyfres yma wedi'w ariannu gan gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Prydain. Diolch i Tafarn y Plu am gefnogi a cynnig cartref mor braf. Diolch i Frân Wen am yr offer Sain ac i Lewis Williams am weithio'r offer Sain. Welcome back to the world of Gwrachod Heddiw! This is the first episode in our third Series, and it's a privilege to introduce comedian Caryl Burke.In this funny and heartfelt episode, comedian Caryl Burke joins us in front of a live audience at Tafarn y Plu, Llanystumdwy for a frank chat about cats, grief, comedy and boobs. We dive deep into what makes Caryl more like a witch today - whether it's her hatred of cats, her magical sense of comedy, or her unique perspective on life. With plenty of laughs, honest moments, this is the first of its kind for this series.This series has been funded by Gwynedd Council's and the British Governments Ignite fund.
Trafod gyda Lauren Albertina-Morais - Cathod Sassy, Beyonce a bod yn ffrind gorau i chdi dy hun
Send us a textCALAN GAEAF HAPUS WITCHEZ! Dyma bennod newydd o Gwrachod Heddiw i ddathlu. Yn y bennod yma, dwi'n siarad hefo'r actor / perfformiwr / bardd / cyfarfwyddwr o fri Lauren Albertina-Morais am yr holl bethau sydd yn ei gwneud hi'n wrachaidd. Mwynhewch Hags, A Plis @iwch fi hefo'ch gwisgoedd gwrachaidd! Byddwch wych, Byddwch Wrachaidd