Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Episode List

Llyfrau'r Flwyddyn 2025

Dec 9th, 2025 6:25 AM

Trafod y llyfrau wnaethon ni mwynhau yn ystod y flwyddyn dyma lyfrau'r flwyddyn 2025. SiânV a Fo - Gwenno GwilymPolitics on the edge - Rory StewartDafyddCylch Cyfrin - Derfel WilliamsClear - Carys Davies BethanRaaarrr! - Rolant TomosStrange Weather In Tokyo - Hiromi KawakamiAledThe Glutton - A.K. BlackmoreAnfarwol - Peredur GlynManonMy Childhood - Maxim GorkyLan Stâr - Anthony Shapland ac Esyllt Angharad LewisLlyfrau Secret Santa:The Dig - Cynan JonesMarw Chwerthin - Islands of abandonment - Cal FlynDaemon Voices - Essays on Storytelling gan Philip PullmanThe Creative Act: A way of being - Rick RubinO'r India Bell – Glyn AddaHoelion Wyth – Robin WilliamsBlog Glyn Addahttps://glynadda.wordpress.comErs recordio'r bennod hon rydyn ni bellach yn gwybod bod llyfrau Cymraeg ar gael yng nghanol Caerdydd yn y Queer Emporiumhttps://queeremporium.co.uk

Raaarrr

Nov 18th, 2025 5:50 AM

Dyma bennod sy'n rhuo mewn i'ch clustiau. Mae Bethan Byth Di Bod i Japan, Manon mor ysgafn â phluen ar ôl enwebiad Carnegie, ac mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.Mae 'na fwy o olygu yn y bennod hon na phennod o Panorama.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Strange weather in Tokyo - Hiromi KawakamiAnfarwol - Rebecca RobertsRaaarrr - Rolant TomosMor Hapus - Gwenllian ElisMarw Chwerthin - gol. Susan RobertsNodiadlyfr Bach y Wawr - Najwan Darwish (cyfieithwyd gan Iestyn Tyne a Hammad Rind)Trysorau'r Nadolig - gol. Jo HeydeCatching Fire - Daniel HahnDear Reader - Cathy RentzenbrinkLan Stâr - Anthony Shapland ac Esyllt Angharad LewisMichael Rosen's Sad BookPodlediad Anatomy of a Cancellation ar BBC SoundsInside - Boris BeckerThe Long Shoe - Bob MortimerCath Fenthyg - Myfanwy AlexanderAnfarwol - Peredur Glyn

O ble daw syniadau?

Oct 23rd, 2025 4:45 AM

Syniadau neu o ble mae ein syniadau yn dod yw trafodaeth y podlediad mis yma.Lot o chwerthin, 'chydig o bethau dadleuol, ambell i sgwrs ddwys, ac ambell ddarn lle nad yw Bethan yn siarad!Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:The This - Adam RobertsThe Tomorrow Project - H. CritchlowCroesi'r Paith - R Bryn Williams'Rwy'n Cofio - "Yr Hen Was"Bechgyn Drwg Am Byth - Llwyd OwenEarthlings - Sayaka MurataConvenience Store Woman - Sayaka MurataThe Mantis - Kotaro IsakaLladd Arth - Kayley RobertsPenllechwedd - Rhiannon TomosMan Draw - casgliad o straeon taithHostage - Clare MackintoshWythnos Ryfedd Gwilym Puw - Neil RosserInside - Boris BeckerYn Fyw Yn Y Cof - John RobertsY Siswrn - Daniel OwenBrother and Sister - Diane Keaton

Sgwennu 5 Mil O Eiriau Y Diwrnod

Sep 25th, 2025 5:00 AM

Mae un o'r criw wedi bod yn brysur yn sgwennu 5 mil o eiriau y diwrnod, tra bod y gweddill wedi bod wrthi'n darllen llwyth o lyfrau, gydag ambell lyfr o Siapan.Lot o chwerthin, 'chydig o bethau dadleuol, ambell i sgwrs ddwys, a thipyn o olygu i gadw Aled yn brysur!Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Kate - Cofiant Kate Roberts 1891-1985 - Alan LlwydDoppelganger - Naomi KleinAlbym 'Uwch Dros y Pysgod'- Dafydd OwainY cylch cyfrin - Derfel WilliamsCath Fenthyg - Myfanwy AlexanderAnfarwol - Peredur GlynEddie Winston is looking for Love - Marianne CroninEarthlings - Sayaka MurataY Tŵr - Rebecca ThomasLladd Arth - Kayley RobertsCuddliwio - Bryn JonesComing Home to Ottercombe Bay - Bella OsborneJust Saying - Malorie BlackmanTelling Tales - Ann CleavesThe Plankton Collector - Cath Barton

Y Babell Lên , Eisteddfod Wrecsam 2025

Aug 19th, 2025 5:20 AM

Rhifyn arbennig a recordiwyd o flaen gynulleidfa yn Y Babell Lên , Eisteddfod Wrecsam 2025.Yn ôl rhaglen yr Eisteddfod dyma oedd disgwyl...Criw podlediad 'Colli'r Plot', Aled Jones, Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Manon Steffan Ros a Sian Northey, yn trafod llyfrau a malu awyr yn gyffredinol, yn ôl eu harfer.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Hiraeth Neifion - Simon ChandlerLlechen yn y Gwaed - Atgofion drwy Ganeuon, Gai TomsCelwydd Noeth - Heiddwen TomosAnturiaethau’r Afanc - Rebecca ThomasThe Significance of Swans - Rhiannon LewisLladd Arth - Kayley RobertsHiraeth Neifion - Simon ChandlerReit Rownd - Aled Jones WilliamsRiverflow - Alison LaylandPrynu Dol a Storïau Eraill - Kate RobertsCath Fenthyg - Myfanwy AlexanderY Cylch Cyfrin - Derfel F. WilliamsY Llyfr Doji ‘Na - Bryn Jones

Get this podcast on your phone, Free

Create Your Podcast In Minutes

  • Full-featured podcast site
  • Unlimited storage and bandwidth
  • Comprehensive podcast stats
  • Distribute to Apple Podcasts, Spotify, and more
  • Make money with your podcast
Get Started
It is Free