67 - Louis Theroux, SNL a Claudia Winkleman
Llawer o raglenni teledu i'w trafod yr wythnos hon - o 'Power: The Downfall of Huw Edwards', 'Saturday Night Live UK', 'Louis Theroux: Inside the Manosphere', 'Last One Laughing' a 'The Claudia Winkleman Show'. Hefyd, rhaid i ni drafod trip Mari i wylio Lily Allen yng Nghaerdyddna'r fideo anffodus yna o Justin Timberlake. Ewch i nol paned a mwynhewch!
66 - Yr Oscars, Chappell Roan a Syr Bryn
Mae seremoni wobrwyo fwya'r byd newydd ddigwydd yn Hollywood sy'n golygu fod na lwyth o glecs i'w trafod yn y siop yr wythnos hon. Ar ben hynny, mae'n blwch yn gorlifo gyda negeseuon am daith Siarad Siop ac mae'r cynllunio wedi dechrau. I mewn â chi, mae'r siop ar agor.
65 - Taith Siarad Siop, Timothée Chalamet ac Y Llais
Daeth y dydd! Mae tocynnau taith fyw Siarad Siop nawr ar werth ac ar gael drwy glicio ein linktree neu drwy ymweld â gwefannau Clwb Ifor Bach a Galeri. Yn y cyfamser, dyma bennod arferol i chi o gossipio, honni ffeithiau hynod o amheus a lot o fawr o chwerthin. Mewn â chi! Mae'r siop ar agor.
64 - Cân i Gymru, gin a Premier Inn
Mae Mari a Meilir wedi mentro allan o'r siop ac yn recordio'r bennod yma mewn gwesty. Pam, medde chi? Wel clicio play ac fe gewch chi'r hanes i gyd am eu travels.
63 - Tyra Banks, Our Town a 'dod allan'
Wedi wythnos o'r siop, mae hi'n braf bod nol gyda llond blwch o geisiadau a llond trol y straeon, gossip a sgwrsio, gan gynnwys rhaglen ddogfen newydd am America's Next Top Model, y twyll cyrlio yn yr Olympics a thaith sioe Welsh National Theatre o gynhyrchiad 'Our Town'. Digon o ragflas - mewn â chi i'r siop!