Hanes Mawr Cymru

Hanes Mawr Cymru

https://podcasts.files.bbci.co.uk/p0c80fp9.rss
10 Followers 18 Episodes Claim Ownership
Mae hanes Cymru yn llawn pobl ryfeddol a chymeriadau mawr. Dewch ar daith hwyliog i'w cyfarfod! Pwy oedd Owain Glyndŵr a Merched Beca? Pryd cafodd glo ei ddarganfod? Pam ein bod yn siarad Cymraeg o gwbl? Llinos Mai sy’n ein tywys drwy’r cyfan. Dewch i gyfarfod y dihirod, arwyr a’r bobl gyffredin wnaeth ffurfio cenedl. The history of Wales is full of amazing stories and big characters! Join Llinos Mai on a fun filled journey to discover the history that formed a nation.Awdur: Llinos Mai Cy...
View more

Episode List

Syr Ifan ab Owen Edwards

Feb 16th, 2026 11:00 AM

Llinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Yn y bennod hon, rydyn ni'n dysgu popeth am y dyn a ddyfeisiodd Yr Urdd - Syr Ifan ab Owen Edwards.

Alfred Russel Wallace

Feb 9th, 2026 11:00 AM

Llinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Gadewch i ni fynd ar antur gyda'r arloeswr, naturiaethwr, gwyddonydd ac anthropolegwr o Frynbuga, Alfred Russell Wallace. Rydyn yn clywed am ei daith i’r Amazon i chwilio am rywogaethau newydd, darganfod broga sydd yn gallu hedfan yn Ynysfor Maleia, a sut y cafodd syniad pwysig iawn tra’n sâl yn y gwely. O ie, ac mae Darwin hefyd yn ymddangos! Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions Ltd).

Arglwyddes Rhondda, Margaret Haig Thomas

Jan 26th, 2026 1:00 PM

Rydym wedi clywed llawer am Emmeline Pankhurst ond tybed faint sydd wedi clywed am swffragét Cymraeg o Lanwern ger Casnewydd, yr Arglwyddes Rhondda, Margaret Haig Thomas? Roedd hi'n swffragét blaenllaw, yn wraig fusnes byd-eang, yn olygydd, yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod, ac oedd ar fwrdd yr RMS Lusitania pan suddodd yn Mor yr Iwerydd gan oroesi trwy ddal 'mlaen gafael ar ddarn o bren yn y môr rhewllyd am oriau. Am fenyw!Llinos Mai sy'n dod â Hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân.

Iolo Morgannwg

Jan 19th, 2026 2:00 PM

Llinos Mai sy'n cyflwyno Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed. Pwy oedd Iolo Morgannwg a beth yw ei gysylltiad gyda'n diwylliant ni heddiw? Ac o ble ddaeth y cerddi cafodd eu "darganfod" gan Iolo? Gwrandewch i gael yr ateb!Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)

Arferion ac Ofergoelion Blwyddyn Newydd

Jan 12th, 2026 11:00 AM

Yn y bennod gyntaf, mae Llinos yn adrodd hanes arferion ac ofergoelion Blwyddyn Newydd.Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)

Get this podcast on your phone, Free

Create Your Podcast In Minutes

  • Full-featured podcast site
  • Unlimited storage and bandwidth
  • Comprehensive podcast stats
  • Distribute to Apple Podcasts, Spotify, and more
  • Make money with your podcast
Get Started
It is Free