Cyrraedd y Coupe du Monde
Mae Lauren a’r criw wedi cyrraedd Ffrainc ac yn cael cwmni cyd-gapteiniaid Cymru, Jac Morgan a Dewi Lake.
Cip Olwg Cwpan y Byd
Mae Cyfres yr Haf ar ben a phob llygaid yn troi at Gwpan y Byd yn Ffrainc. Rhys Priestland a Rhys Patchell sy’n ymuno â Lauren i edrych ymlaen at y gystadleuaeth fawr.
Cyhoeddi Carfan Cymru
Mae Warren Gatland wedi enwi’r 33 fydd yn teithio i Ffrainc. Mike Phillips, Rhys Patchell a Rhys Priestland sy’n ymateb i’r cyfan.
Cardiau, Cardiau a Mwy o Gardiau!
Lauren Jenkins, Nathan Brew a Rhys Patchell sy’n dadansoddi’r ail gêm brawf yn erbyn y Saeson ac yn edrych ymlaen at y gêm olaf cyn i Warren Gatland enwi ei garfan ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.
Capiau, Canu a Churo Lloegr
Priestland a Patchel sy’n cadw cwmni i Lauren Jenkins, gyda’r newyddion diweddaraf o garfan Cymru, trafod eu capiau cyntaf, a sgwrs gyda’r prop Gareth Thomas.