Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon, cawn nid un, nid dwy, nid tair a na, nid pedair ond pum cerdd gan feirdd amrywiol, o Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron, i Arwel Rocet, Casi Wyn a Llio Maddocks.
Sylw teilwng hefyd i Granogwen yn sgil dadorchuddio'r cerflun newydd arbennig ohoni, ac yn hynod gyffrous hefyd, sgwrs gyda Beirdd Plant Cymru, Casi Wyn, y Bardd Plant cyfredol a Nia Morais, y darpar Fardd Plant.
Diolch hefyd i Llio Maddocks am rannu ei thelyneg fendigedig i Granogwen ac i Casi Wyn am y fraint o gael chwarae ei chân hudolus hi a disgyblion Ysgol T Llew Jones i Cranogwen.
Hyn oll a mwy!
view more