Pwy oedd Owain Glyndŵr?
Ai Owain Glyndŵr yw'r Cymro enwocaf erioed? Be oedd sbardun ei wrthryfela? Beth wnaeth ddigwydd i'w deulu? Ym mhennod olaf y gyfres, Rhun Emlyn ac Eurig Salisbury sy'n ymuno â Tudur a Dyl Mei i drin a thrafod Owain Glyndŵr
Oes y Tywysogion
Yn y pumed bennod, cyfle i glywed am oes y Tywysogion yng nghwmni Tudur Owen, Dyl Mei a Dr Sara Elin Roberts.
Yr Oesoedd Tywyll
Dr Rebecca Thomas a Dr Owain Jones o Brifysgol Bangor sy'n ymuno gyda Tudur a Dyl i drafod yr Oesoedd Tywyll. Ydy Tudur yn gywir i ddefnyddio'r term? Pwy oedd yn ymosod ar Gymru ar y cyfnod "tywyll" yma? Oedd 'na lonydd i'w gael i'r Cymry? Oedd na'r fath beth a Chymru, neu Gymry, ar y pryd?!
Pwy oedd y Rhufeiniaid gyntaf yng Nghymru?
Pwy oedd y Rhufeiniaid gyntaf yng Nghymru? Faint o hir nath y nhw aros? Pam oedd y nhw yma? Cewch yr atebion yma i gyd yng nghwmni Dewi Prysor ar y 3ydd pennod o Dim rwan na nawr!
Pwy oedd y Celtiaid?
Dr Euryn Roberts a Dr Owain Jones sy'n (ceisio) tywys Tudur a Dyl Mei drwy Oes y Celtiaid